Dyfrig Williams

Bod yn gynghreiriad traws gwell

Dwi ddim rili'n credu mewn addunedau Blwyddyn Newydd, ond un peth dwi eisiau gwneud eleni yw i fod yn gynghreiriad gwell, yn enwedig i'r gymuned draws. Ar hyn o bryd rwy'n darllen 'The Transgender Issue' gan Shon Faye ar ôl darllen yr adolygiad gwych yma gan Terence Eden.


Clawr ‘The Transgender Issue’ gan Shon Faye

Ymreolaeth gorfforol

Mewn un bennod, mae Faye yn edrych ar sut mae ceidwadwyr yn ceisio rheoli cyrff menywod traws mewn ffordd debyg i sut maen nhw'n ceisio rheoli cyrff menywod cis. Ar ddiwedd y bennod yma ac mewn adrannau eraill o'r llyfr, mae Faye yn galw ar y ddau symudiad cymdeithasol i gydweithio er mwyn hyrwyddo eu hachosion ymhellach. I ddechrau roedd e'n teimlo fel bod Faye yn siarad â phobl sydd wedi cael eu hargyhoeddi yn barod, ond yna sylweddolais mai'r perthnasoedd gwan rhwng y symudiadau yma sydd wrth wraidd y rhaniadau presennol rhwng eiriolwyr cyfiawnder cymdeithasol.

Dechreuais gwestiynu fy safbwynt i hefyd. Ni ellir byth gael un cofnod cyflawn o brofiad unrhyw gymuned gan fod nhw'n cynnwys pobl ac agweddau amrywiol. Mae’n berffaith deg mai sail y llyfr yma yw adeiladu pontydd, ac mae yna digon o le i lyfrau eraill codi pwyntiau a thrafodaethau arall ble bo angen.

Naws o fewn dadleuon ar-lein

Unwaith i mi ddechrau meddwl am ddadleuon, dechreuais feddwl am y rhai dwi di weld ar Twitter. Dyw e ddim yn gyfrwng da ar gyfer trafodaeth ddwfn. Pan o fi'n arfer gweld bod trafodaethau am TERFs yn boblogaidd, byddwn i'n teimlo bod rhaid i mi glicio i weld beth oedd yn digwydd. Fel arfer roedd JK Rowling wedi dweud rhywbeth cas neu roedd yna ddadl ynghylch Deddf Cydnabod Rhyw'r Alban. Fe fyddwn i'n darllen yr holl sylwadau blin a phryfoclyd ac yn teimlo'n euog am glicio i ffwrdd achos roeddwn i'n ddigon ffodus i allu anwybyddu nhw.

Fel dyn cis, rwy'n gwybod fy mod i'n hynod o freintiedig. Dwi erioed wedi teimlo nad ydw i yn y corff cywir, a hefyd dwi ddim wedi teimlo'r ofn y mae cymaint o fenywod yn teimlo ynghylch dynion (ysgrifennodd fy ngwraig y post ardderchog yma ar hyn).

Er bod hunaniaethau traws yn cael eu cysidro yng nghyd-destun ymyleiddio menywod ar Twitter, y gwir amdani yw does gan bobl draws ddim pŵer sefydliadol cryf. Mewn gwaith blaenorol rydw i wedi clywed o bobl sydd wedi cael eu henwi’n farw (neu “deadnaming”) mewn ymgais i'w gywilyddio, i'w diraddio ac i danseilio eu hunaniaethau.

Sut byddai gynghreiriad da yn edrych?

Llynedd fe wnaethon ni fynd drwy’r broses o drawsgrifio ein podlediadau er mwyn sicrhau bod nhw'n hygyrch. Fe wnaethom rannu'r gwaith o gwmpas sawl un ohonom, a chefais fy niddori gan rhai o'r penodau roeddwn i'n gyfrifol amdano. Fe wnaeth rhywbeth dywedodd Dez Holmes ar bodlediad ar hil, braint a chynghreiriad aros gyda mi. Cafodd y sylw ei wneud yng nghyd-destun hil, ond fe wnaeth i mi fyfyrio ar fy rôl i fel cynghreiriad yn fwy cyffredinol:

“Rwy'n credu fy mod i'n cymryd safbwynt amlochrog ar fraint, neu fraint wen, yn yr ystyr bod yna elfen o'r hyn yr ydych wedi dweud, am ryddhau pŵer. Rwy'n meddwl mewn rhai senarios, mae'n bwysig i gynghreiriaid i ryddhau eu pŵer, ond rydw i hefyd yn gwerthfawrogi, i'r bobl hynny sydd, efallai, yn hunanymwybodol am eu pŵer, gall y syniad gwneud nhw i deimlo'n anghysurus, neu'n teimlo'n anesmwyth ynglŷn â gwneud hynny. Rwy'n meddwl bod sefyllfaoedd gwahanol yn gofyn am bethau gwahanol gan gynghreiriaid. A dyna pam ei bod yn bwysig bod cynghreiriaid yn cael eu haddysgu o ran y pŵer sydd ganddynt, sut y gellir ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd gwahanol, a natur y pŵer yna mewn gwirionedd.”

Ers myfyrio ar hyn rydw i wedi bod yn ystyried y pŵer sydd gennyf a beth rwy'n gwneud ag ef. Dwi ddim yn bwriadu mynd mewn i ddadleuon ar-lein, ond mae rhywbeth o gwmpas gwneud fy safbwynt yn glir fel bod gen i safbwynt clir pan rwy'n cael fy nhynnu i mewn i drafodaethau. Gobeithio byddai mewn sefyllfa well i ymateb mewn ffordd gynorthwyol a chefnogol i'r gymuned draws. Yn y rhyfel diwylliant presennol, mae'n golygu cael y dewrder i amlygu fy syniadau fy hun ac i fod yn fwy llafar pan fyddaf yn gweld anghyfiawnder.

I unrhyw un sy’n byw neu weithio’n gyfagos i Gasnewydd, mae Stonewall yn cynnig y rhaglen dysgu yma ar gyfer Cynghreiriaid Traws – mae'n edrych yn wych!

Dilynwch fi ar toot.wales