Dyfrig Williams

Chwilio am gymunedau dysgu ar-lein

Roedd Twitter arfer bod yr unig le am meicro-blogio, ond mae defnyddwyr bellach wedi'u gwasgaru rhwng llwyfannau amrywiol.

Image description

Mae fe wedi bod dros hanner blwyddyn ers i mi sgwennu blogbost am Mastodon fel dewis amgen i Twitter. Yn sgil hwn, fe wnes i a grŵp o'm cydweithwyr cael sgwrs hynod o ddiddorol ynghylch y platfform, ein profiadau a beth roeddem wedi dysgu. O bawb yn y cyfarfod, fi oedd y person a oedd wedi'i gyffroi'n fwyaf, a hefyd fi oedd y person a oedd wedi drysu'r lleiaf.

Mae'r blogbost yma gan Erin Kissane yn ategu'r profiad yma. Mae'n amlinellu bod pobl wedi gadael Mastodon achos ei fod yn rhy ddryslyd, yn ormod o waith ac yn rhy frawychus.

Mae'n drueni mawr nad yw Mastodon wedi gallu manteisio ar ddirywiad Twitter. Mae Maria Antoniak yn crynhoi'r sefyllfa bresennol yn wych:

“Efallai ei bod hi'n amser da i gymuned Mastodon fyfyrio ar sut mae'r defnyddiwr cyffredin wedi cael eu ffaelu – y math o ddefnyddiwr sydd fwyaf cyfforddus gydag apiau hawdd fel Facebook ac Instagram. Mae gwir angen dewisiadau amgen o gyfryngau cymdeithasol, a'r ffordd i ennill y rhyfel yma yw trwy greu dewisiadau realistig eraill sy'n hyfryd i'w ddefnyddio.”

Mae gwrando ar gymunedau lleiafrifol ar Mastodon wedi bod yn brofiad dysgu hefyd – mae rhai nodweddion ac aelodau o'r gymuned wedi gwneud y llwyfan yn ofod digroeso. Mae'r ffaith bod e ddim yn bosib dyfynnu postiad wedi lleihau'r teimlad o gywilyddio sy'n nodwedd o Twitter, ond mae hyn hefyd yn meddwl nad yw Mastodon wedi cael ei ystyried fel dewis amgen i Twitter Du (neu Black Twitter).

I fi, mae'n teimlo bod gan Mastodon rôl wahanol yn fy mywyd i Twitter. Er bod fy rhyngweithiadau arno wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, mae'r cyfyngiadau gyda'r chwilio (sy'n newid diolch byth) wedi golygu ei bod yn anodd dod o hyd i wybodaeth a chymunedau penodol. Mae'r blogbost yma gan Terence Eden ar gymhlethdodau chwilio yn werth ei ddarllen.

Pam aros ar Mastodon?

Mae'n rhwydd meddwl am Mastodon fel un peth ond gan fod e'n rhan o'r Fediverse mae yna lawer o bosibiliadau ynghylch sut all y platfform datblygu, neu sut all rhai eraill ddatblygu ohono.

Er nad yw Mastodon yn ofod dysgu perffaith ar hyn o bryd, mae ganddo lawer mwy o botensial i ddatblygu i fod yn un ymarferol (a dymunol) na'i ddewisiadau amgen. Mae yna lawer o bobl o dechnoleg ar y platfform, sy'n rhoi naws tebyg i ddyddiau cynnar Twitter iddi.

Felly beth am yr opsiynau eraill?

Ar ôl rhoi'r gorau i ecosystem Meta, does gen i ddim chwant i gael fy sugno'n ôl iddo trwy Threads.

Does gen i ddim llawer o ffydd mewn Blue Sky chwaith, ond rwy'n agored i newid fy meddwl. Roedd yna awyrgylch cas i Twitter ymhell cyn i Elon Musk gymryd yr awenau. Roedd e'n llawn casineb a throlio, ac roedd e'n lle digon annymunol i fod. Rwy'n aros i weld sut mae'r platfform yn gweithredu o dan Jack Dorsey, ac os yw'n debyg i deimlo'n wahanol.

Er bod gan Mastodon lawer o le i ddatblygu a bod yn well, mae'r ffaith fod e'n cael ei ddatblygu (y gallu i chwilio er enghraifft) yn rhoi gobaith i mi, yn enwedig wrth ei gymharu â Twitter. Mae'r opsiynau gwahanol o ran tynnu geiriau a chynnwys o'ch llinell amser, yn ogystal â rhybuddion cynnwys cymunedol i gyd yn gwneud iddo deimlo'n llawer llai gwenwynig na Twitter.

Mae trafodaethau agored ynghylch modelau cyfranogol ar gyfer y platfform hefyd. Er nad yw'n berffaith ar hyn o bryd, mae'n newid ac yn datblygu'n gyflym. Yn wir, mae'r platfform wedi dechrau mynd i'r afael â llawer o'r materion sydd ganddo (er enghraifft chwilio) ers i mi ddechrau ysgrifennu'r blogbost yma.

Mae Mastodon wedi dangos i mi nad oes rhaid i rwydweithiau cymdeithasol fod yn wenwynig, ac mae'n rhoi gobaith i mi ddod o hyd i fannau dysgu effeithiol yn y dyfodol.

Dilynwch fi ar toot.wales