Dyfrig Williams

Fy adolygiad blynyddol ar gyfer 22-23

Fe wnes i gael fy adolygiad blynyddol yn ddiweddar, ac fe wnaeth y broses rhoi cyfle i mi fyfyrio dros y flwyddyn ddiwethaf. Edrychais dros fy mlogbostau adlewyrchol ac fe wnes i dal i fyny gyda fy rheolwr llinell i edrych dros fy ngwaith eleni a'r datblygiadau yn fy rôl.

Adborth a myfyrio

Yn gyffredinol, mae pethau wedi mynd yn dda, ond mae yna lot o botensial i ddatblygu safle dysgu yng nghynnyrch craidd y busnes. Rydym wedi profi cynhyrchion newydd o'r enw Llwybrau Dysgu, ble mae pobl yn cael eu tywys ar daith ddysgu trwy adnoddau amrywiol. Roedd rhaid gwneud lot o waith tu ôl i'r sîns ar gyfer rhain. Ond nawr rydym wedi symud o Umbraco 7 i Umbraco 10, mae gennym y cyfle i ddatblygu'r adnoddau hyn ymhellach. Bydd cynhyrchu'r rhain yn gofyn am ffordd wahanol o weithio, ac fe fydd yn ddiddorol i weld ba newidiadau gweithdrefnol a diwylliannol sydd angen.

Fel sefydliad rydym ar bwynt diddorol o'n datblygiad – rydym wedi tyfu'n rhy fawr i rai o'n prosesau syml, gan nad ydyn nhw'n helpu ni i graffu gwaith ein gilydd. Rydw i wedi bod yn brwydro yn erbyn rhai pethau sy'n cynyddu'r lefelau o fiwrocratiaeth. Rwy'n meddwl fy mod i wedi cael trafferth deall pryd i frwydro, a phryd i adael i bethau i fynd. Mae yna adegau nawr pryd mae’n teimlo fel bod pawb yn disgwyl i mi anghytuno, a dyw hynny ddim yn teimlo fel gofod defnyddiol.

Beth ydw i eisiau bod yn dweud yn fy adolygiad nesaf?

Rwy’n gobeithio dweud fy mod i'n haelod cefnogol o’n grŵp rheolwyr canol, a bod ein hadnoddau wedi’u dylunio’n well er mwyn ysgogi newid.

Disgwyliadau

Rydw i nawr yn rheoli ein Swyddog UX. Rydym yn prototeipio ffordd o weithio sydd yn seiliedig ar sut rydym yn gweithio'n hybrid. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma i weld sut y gallwn ddod â UX i mewn i ddatblygiad ein gwaith ehangach.

Mae gen i rywfaint o wybodaeth am UX, ond dwi ddim yn arbenigwr o bell ffordd. Gall y cyfyngiadau yn fy ngwybodaeth wneud e'n anodd i mi roi fframwaith clir ar gyfer y gwaith, ond rwy’n gallu darparu syniad clir o natur ein gwaith a’n hadnoddau, yn ogystal â sut mae ein partneriaid gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio.

Mae gen i ddiddordeb mawr hefyd mewn profi sut y gallwn newid y ffordd y mae ein hadnoddau amlgyfrwng yn teimlo. Rydym yn edrych ar sut y gallwn ddylunio rhai o'n hadnoddau'n well er mwyn ei wneud yn haws i bobl i gysylltu'n emosiynol â nhw a rhoi'r dysgu ar waith, jyst fel yr Eliffant a'r Marchog.

Beth ydw i eisiau bod yn dweud yn fy adolygiad nesaf?

Rwy’n gobeithio dweud bod natur berthynol ein hadnoddau yn gwneud e'n haws i bobl eu rhoi ar waith. Rydw i hefyd eisiau cynyddu fy ngwybodaeth am UX fel y gallaf gefnogi a herio fy nghydweithiwr yn well.

Twf a Datblygiad

Rydw i wedi dysgu siwd gymaint o fod ar Twitter dros y blynyddoedd, ond dyw X ddim yn ofod defnyddiol rhagor. Mae disgrifiad Helen Lewis ohono fel “bobio am afalau mewn powlen sydd yn llawn o wyddonwyr hil amatur” yn teimlo'n iawn i mi. Mae symud i ffwrdd o X yn golygu bod angen i mi ddatblygu rhwydweithiau ar-lein newydd i adeiladu fy ngwybodaeth.

Beth ydw i eisiau bod yn dweud yn fy adolygiad nesaf?

Rwy’n gobeithio dweud ein bod ni wedi datblygu a myfyrio ar ffyrdd newydd a gwahanol o weithio. Rwy'n gobeithio datblygu fy nysgu o ffynonellau a rhwydweithiau newydd dros y flwyddyn.

Lles

Dyw eleni ddim wedi bod yn hawdd gan fy mod i wedi gorwneud pethau ychydig.

Rwy'n dechrau deall rhythm fy wythnos waith newydd o bedwar ddiwrnod. Yn y bôn, mae dydd Mawrth yn hynod o brysur, ac mae'r llwyth yn ysgafnhau wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen, nes bod gen i'r amser i wneud gwaith go iawn ar ddydd Gwener. Dysgais cymaint o weithdy cynhyrchiant Happy, ac rydw i eisiau rhoi rhai o’r dulliau yna ar waith yn fwy cyson.

Mae seiclo wedi rhoi cyfle i mi gymryd brêc bach ac i edrych ar ôl fy hun yn feddyliol ac yn gorfforol. Pan ddechreuais seiclo degawd yn ôl, doedd gen i ddim syniad o’r gwaith cynnal a chadw byddai angen. Rydw i wedi dysgu cymaint, ond mae adeiladu beic graean wedi cymryd lot o ymdrech, a jyst ar ôl i mi ddechrau fe dorrodd y ffyrc ar fy fficsi hefyd. Mae gweithio ar ddau feic wedi bod yn ymdrech go iawn mewn cyfnod ble byddai fi wir wedi gwerthfawrogi bach o amser sbâr. Wedi dweud hynny, rydw i wedi ymdrechu i fynd mas ar y beic yn gynnar yn y bore, ac mae hynny wedi bod yn anhygoel. Ac un o'r pethau gorau dwi di wneud dros y flwyddyn ddiwethaf yw i i archwilio cefn gwlad canolbarth Cymru ar y beic graean.


Llun o dop bryn sy'n edrych allan dros gwm gwrth a gafodd ei gymryd tra'n archwilio Canolbarth Cymru ar fy meic graean

Mae fy mlogio i wedi cymryd tipyn o ergyd wrth i fy amser sbâr lleihau. Dwi heb fod mor gynhyrchiol ag yr oeddwn i eisiau fod, ond dwi hefyd eisiau fod yn hael i fy hun. Dwi ddim yn teimlo fel dwi wedi gwastraffu unrhyw amser, ac rwy'n gobeithio blogio mwy dros ran olaf y flwyddyn. Mae rhannu fy nysgu ac amlygu'r pethau cŵl mae pobl yn wneud wedi bod yn allweddol wrth adeiladu rhwydweithiau ar-lein yn y gorffennol. Mae'r adlewyrchu hefyd yn ddefnyddiol iawn o ran yr adolygiad blynyddol yma hefyd.

Beth ydw i eisiau bod yn dweud yn fy adolygiad nesaf?

Dwi ddim yn dechrau fy niwrnodau gydag e-byst o ddydd Mercher i ddydd Gwener, a dwi eisiau nodi'r tasgau allweddol i mi ganolbwyntio arno'r diwrnod cynt.

Wrth i nosweithiau'r gaeaf agosáu, mae'n bwysig fy mod i'n parhau gyda fy rheol “dim cyfarfodydd dros amser cinio” fel fy mod i'n gallu gwneud ymarfer corff pan nad yw'n bosib fel arall.

Fe fydd yn ddiddorol i edrych nôl dros y blogbost yma i weld beth dwi wedi'i roi ar waith a beth dwi heb. Rhywbeth i fyfyrio arno ar ddiwedd y flwyddyn, ac yn adolygiad blynyddol y flwyddyn nesaf!

Dilynwch fi ar toot.wales