Joio fod yn amatur
Y flwyddyn yma fe wnes i ddod o hyd i’r blog Conferences That Work gan Adrian Segar. Mae'n cynnwys cymaint o adnoddau gwerthfawr ynghylch digwyddiadau a ffyrdd o ddysgu ehangach. Fe wnaeth y blogbost yma cwestiynu os oes gennym berthynas gwael â gwaith. Rydw i wedi bod yn cysidro fy mherthynas â gwaith ers sgwennu fy adolygiad ar ddiwedd y flwyddyn. Dros y misoedd diwethaf rydw i wedi bod yn ystyried sut gallaf wneud amser i ymlacio’n o iawn, a sut mae hynny'n cyd-fynd â'r ffordd rydw i'n byw fy mywyd.
Al Pacino yn dweud “relax... take it easy!!!”
Roeddwn i'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i'r eithaf yn gynharach yn fy ngyrfa er mwyn dysgu o bobl ddiddorol. Yn y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi deifio i mewn i fyd podlediadau – maen nhw wedi fy ngalluogi i wrando ac i fynd i'r afael â dadleuon hir a chymhleth ar lawer o faterion arbenigol. Mae'n rhaid i’r radio apelio at bawb, ond mae podlediadau yn gyfrwng llawer mwy democrataidd.
Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddysgu tu hwnt i 9-5
Rydw i wedi bod yn myfyrio yn ddiweddar ar faint o fy nysgu i sydd wedi bod yn digwydd yn fy amser fy hun – bydd y weithred o sgwennu hwn wedi cael ei wneud y tu allan i fy oriau gwaith.
Yn ddiweddar, rydw i wedi ffeindio bod angen cyfle i mi ymlacio mewn modd dwi ddim wedi o'r blaen. Dwi wedi sylwi bod gwrando ar bodlediad neu sgrolio trwy cyfryngau cymdeithasol ddim yn galluogi mi i ymlacio'n o iawn.
Gadewais Medium ac rwy’n parhau i gael trafferth gyda LinkedIn (er bod e’n cael adfywiad ymhlith fy nghydweithwyr i) oherwydd y diwylliant sydd yno. Mae cymaint o ffetisheiddio o fyd gwaith yno. Dyw hyn ddim yn gwneud unrhyw les i neb yn y tymor hir, fel y mae Paul Taylor wedi'i nodi’n hyfryd yn y blogbost yma:
“Jyst fel mae bywydau a pherthnasoedd eich ffrindiau yn edrych yn llawer mwy cyffrous na’ch rhai chi ar Facebook, mae cyflogwyr pawb ar LinkedIn yn well na’ch un chi, ac mae pawb yn mynd i’r gwely ar ddydd Sul yn gyffrous ar gyfer yr wythnos sydd i ddod.”
Croesi’r ffiniau rhwng bywyd gwaith a bywyd hamdden
Ar ddechrau fy ngyrfa fe fyddwn i'n ymuno â rhwydweithiau a byddwn i'n gweithio ac yn rhannu'n agored ar gyfryngau cymdeithasol ar ben fy swydd i. Y dyddiau hyn dim ond tamaid bach o hyn dwi’n gwneud. Ond dyw'r broblem yma o amser gwaith / personol ddim jyst wedi'i chyfyngu i wasanaeth cyhoeddus. Mae’n ddiddorol nodi bod polisi 20% Google (ble mae staff yn gallu ffocysu ar eu diddordebau yn eu hamser gwaith) jyst yn ymarfer propaganda (fel y nodwyd yn y cylchlythyr gwych yma gan Eat Sleep Work Repeat). Rwy’n caru’r dyfyniad yma:
“Amser 20%? Ni’n galw e’n ddydd Sadwrn.”
Bywyd amatur
Yr hyn sy'n gadarnhaol yw bod y myfyrio yma wedi gwneud i mi feddwl yn wahanol am sut rwy'n treulio amser y tu allan i'r gwaith. Mae'n ymddangos bod rhai manteision i gael gyrfa gerddoriaeth ddi-ben-draw – mae'n golygu does dim straen arnaf i o gwbl, a bod codi’r gitâr yn wir yn gyfle i gamu i ffwrdd o fyd gwaith. Yn yr un modd, mae bod yn feiciwr o safon isel yn golygu bod yr amser rwy’n treulio ar y beic yn cynnig lle i mi ddianc, yn llythrennol ac yn drosiadol.
Rydyn ni mor aml yn cael ein haddysgu i anelu ato ragoriaeth broffesiynol a’r foeseg waith Protestannaidd. Ond mae cymaint o lawenydd i'w gael mewn gweithgareddau ble dy chi ddim yn rhagori. Rwy'n ailgysylltu â bod yn amatur ar hyn o bryd, ac rydw i wrth fy modd yn gwneud hynny.