Dyfrig Williams

Pryd mae'r robotiaid yn dod? Defnyddio AI yn y gweithle

Mae yna lot o drafod wedi bod ynghylch y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y gweithle a phryd/os byddwn ni'n cael ein disodli gan robotiaid.

robot
Byddin o robotiaid

Rydyn ni wedi bod yn edrych nôl dros ein fideos yn ddiweddar i weld ba rai sydd heb gael ei drawsgrifio, ac rydyn ni hefyd wedi bod yn adolygu ein prosesau fel ein bod ni'n gwneud yn well yn y dyfodol. Mae hwn wedi rhoi siawns i ni edrych ar y bwlch rhwng trawsgrifiadau awtomatig ac ymdrechion cwmnïau trawsgrifio. Mae safonau trawsgrifio awtomatig wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae dal angen llygad dynol i gael cipolwg dros yr allbynnau.

Trefedigaethedd dechnegol

Un o'r problemau gyda'r trawsgrifiad awtomatig yw'r ffordd mae'n delio gydag enwau di-Saesneg. Ar hyn o bryd mae AI yn cyfleu persbectif anglosentrig o'r byd oherwydd natur y data sy’n wraidd iddo. Dyw hwn ddim yn achosi gormod o broblemau i ni gan ein bod ni'n cynhyrchu fideos Saesneg. Wedi dweud hynny, er bod e'n ddoniol i weld fy enw i'n cael ei newid i Derek i ddechrau, mae'r llawenydd yn pylu. Rwy'n cael fy atgoffa o'r nam yma'n aml pan rwy'n defnyddio systemau mapio pan ddwi nôl yng Nghymru – mae systemau technoleg yn cam-ddweud enwau llefydd Cymraeg fel mater o drefn. Mae prosiectau fel Mapio CymruMapio Cymru a Common Voice mor bwysig er mwyn mynd i’r afael â hyn.

Mae problemau hefyd ynghylch sut mae Algorithmau AI yn gweld ac yn cynrychioli'r byd fel stereoteipiau. Mae'n bosib y gall AI gwella ansawdd allbynnau dynol, ond mae rhaid checio'r allbynnau yma yn erbyn ffynonellau eraill, neu fe fydd rhagfarnau'r algorithmau a data gwreiddiol yn siapio'r allbynnau.

Cymryd persbectif gwahanol

Mae llawer o'r achosion arfaethedig ar gyfer AI wedi bod yn ffocysu ar arbed arian trwy arbed llafur, ond mae'r llafur hwnnw'n cael ei wneud rhywle arall. Mae'r erthygl hon ar sut mae pobl yn Nairobi yn prosesu data i hyfforddi AI yn dorcalonnus – mae ein defnydd camfanteisiol o AI yn y Gorllewin yn arwain at ecsbloetio pobl yn y De Byd-eang.

Os cymerwn bersbectif echdynnol ble dy ni ddim yn cyfrannu dim byd ond yn derbyn gwerth, rydyn ni mewn trafferth. Ond os edrychwn ni ar weithio mewn partneriaeth â thechnoleg, mae yna fyd newydd o bosibiliadau. Mae'r erthygl yma gan Janet Vertesi yn ymchwilio i sut all dull iachach edrych a pham ei fod yn fwy tebygol o lwyddo. Ar hyn o bryd mae Spotify a gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth eraill yn canibaleiddio'r diwydiant cerddoriaeth. Ond os ydym yn edrych ar algorithmau fel ffynhonnell o greadigrwydd yn lle ffordd o dorri costau, yna mae'r system yn teimlo'n llawer iachach:

“Gallai artistiaid ysgrifennu neu guradu eu halgorithmau eu hunain i danio creadigrwydd a chadw credyd am eu gwaith. Wrth gwrs, dyw gwrthod amnewid ddim yn dileu'r holl bryderon moesegol sydd gydag AI. Ond mae llawer o broblemau sy'n gysylltiedig â bywoliaeth ddynol, asiantaeth a rhagfarn yn mynd o'r neilltu pan rydym yn ailosod y nod.”

Fe wnaeth hyn fy atgoffa i o waith Vanguard, ble maen nhw'n sôn am y pwysigrwydd o newid meddylfryd cyn gweithio ar systemau a pherfformiad. Os yw ein meddylfryd yn mynnu mai dull o arbed arian yw AI, yna ein pwrpas deffacto yw'r ddarpariaeth o wasanaethau rhad, nid rhai da. Nid technoleg yw'r ateb i'r cwestiynau sy'n ein hwynebu, ond modd o hwyluso ni i wneud pethau gwell.

Dilynwch fi ar toot.wales