Rheoli unwaith eto
Rydw i ar fin fod yn rheolwr llinell eto ar ôl bach o frêc. Roeddwn i'n meddwl byddai'n ddefnyddiol i atgoffa fy hun o beth wnes i'n dda a beth fyddai'n werth i mi wneud yn wahanol y tro 'ma.
Dechreuwch fel dy chi'n golygu mynd ymlaen
Fy rôl flaenorol oedd y tro cyntaf i mi fod yn rheolwr llinell a dysgais siwd gymaint o'r profiad. Es i i mewn i'r rôl gyda chynllun ynghylch rhoi ymagwedd arweinyddiaeth gwas ar waith. Ar y cyfan fe weithiodd yn dda, ond fe wnes i gyfyngu fy hun ychydig. Mae mynd i mewn i sefyllfa gyda methodoleg mewn golwg o'r cychwyn cyntaf yn ffitio gyda'r dywediad “i morthwl, mae popeth yn edrych fel hoelen.” Ffeindiais i fod alinio fy hun yn rhy agos ag unrhyw ddamcaniaeth yn achosi problemau. Roedd Ferris Bueller yn fachan clyfar.
Ferris Bueller yn dweud “Isms in my opinion are not good”
Cymhlethdod
Mae pawb yn wahanol. O'r 3 person rheolais i ddechrau, wnes i glicio ag un ohonyn nhw ar unwaith. Roedd eu cryfderau nhw’n ategu ble roedd angen i mi ddatblygu, ac roedd fy arddull rheoli yn gweithio'n dda. Wrth fyfyrio yn y sesiynau hyfforddi llynedd, trafodom y ffaith bod dulliau perthynol o fewn fy mharth cysur. Roedd angen rhywbeth gwahanol wrth weithio gyda'r lleill, a wnes i ddim deall hynny nes i mi ddatblygu patrymau gweithio sefydlog gyda nhw. Y tro yma rwy'n edrych i roi prosesau defnyddiol ar waith i liniaru rhai o'm gwendidau, fel y gallaf dynnu ychydig o emosiwn o rhai sgyrsiau. Rwy'n edrych i gysylltu fy sgyrsiau rheoli â'r cyfarfodydd rheolwyr canol, fel bod gan bob un ohonom ddisgwyliadau clir ac eglurder ynghylch beth y disgwylir ohonom.
Her ddefnyddiol
Wrth reoli un o'm gydweithwyr fe wnes i symud rhwng “rhy lym” a “rhy neis.” Y tro yma rwy'n anelu i osgoi'r gor-ymateb yma. Rwy'n anelu am fan perffaith y Ffenestr Disgyblaeth Gymdeithasol, sef yr her ddefnyddiol. Wnâi trio cadw hyn mewn golwg o fewn fy sgyrsiau, gan edrych i greu gofodau oedolyn i oedolyn.
Osgoi pas ysbyty
Roedd lot o bethau allan o fy rheolaeth fel rheolwr canol. Pan ddaeth y rhain i'r amlwg, byddwn i'n tueddu i drosglwyddo'r achosion i fy rheolwr. Roedden nhw mewn sefyllfa well i wneud rhywbeth amdanynt (mewn theori o leiaf). Wrth edrych yn ôl, roedd hyn yn meddwl fy mod i wedi anfon sawl pas ysbyty tuag atynt.
Fe wnaeth sgyrsiau gyda chyfoedion helpu mi i feddwl am sut i ddelio â'r achosion yma yn well. Dywedodd cydweithiwr y byddan nhw'n mynd yn ôl i'r aelod staff i ofyn iddynt am dystiolaeth glir cyn gweithredu a mynd â'r achos i'r uwch reolwr. Roedd hyn yn rhoi’r cyfrifoldeb yn ôl ar yr unigolyn i ddatblygu’r gwaith, ac yn golygu bod nhw'n cadw eu hasiantaeth, a hefyd yn rhoi amser iddynt gael sgyrsiau ehangach am y mater.
Dyma ni'n mynd eto
Felly byddaf yn ôl mewn rôl rheolwr llinell yn fuan. Yn y rôl byddai'n anelu i osod cyfeiriad clir o ran ansawdd, adnoddau dysgu a phrofiad y defnyddiwr. Rwy'n edrych ymlaen at yr her y tro yma. Mae'r blogbost yma wedi rhoi'r cyfle i mi feddwl amdano beth rydw i wedi dysgu. Rwy'n siŵr y bydd rhagor o'r rhain wrth i fy rôl fel rheolwr llinell ddatblygu!