Dyfrig Williams

Shwmae 2024!

Mae fe wedi dod i'r pwynt yna o'r flwyddyn ble mae'n amser i adlewyrchu ar y flwyddyn sy’ ’di mynd ac i edrych ’mlaen at y flwyddyn sydd i ddod.

Sut oedd 2023?

Yn fy adolygiad blynyddol llynedd fe wnes i siarad am y newidiadau oedd yn cymryd lle ar-lein. Dyw e dal ddim yn teimlo fel bod pethau wedi setlo. Ar ei orau, roedd Twitter yn siop un stop ar gyfer cymunedau o wybodaeth a newyddion. Mae Mastodon wedi bod yn cŵl, ond dyw pobl byd gwaith ddim di mynd i'r afael â'r platfform. Mae'n drueni gan fod y llwyfan wedi bod yn wych i bopeth arall. Mae lot o bobl a oedd yn fy rhwydwaith gwaith bellach yn defnyddio Bluesky, felly fe fydd yn ddiddorol i weld sut mae hynny'n datblygu.

Unwaith wnes i ymuno â Bluesky (diolch Jaz am rannu'r gwahoddiad – chi'n gwybod bod chi ar blatfform da pan ddyw'r gweinyddwr ddim yn ofni rhannu gwahoddiad i blatfform amgen, felly ymunwch a Toot.Wales!), doeddwn i ddim yn gallu ysgogi fy hun i wneud unrhyw beth am sbel. Roedd yna gwpl o resymau am hynny…

  1. Rwy'n cael llawer o fudd o Mastodon. Dyw e ddim yn berffaith, ond mae'r ffocws ar gymunedau sy'n cael ei berchen gan y defnyddwyr yn dal i deimlo fel tonig ar ôl Twitter.

  2. Mae sefydlu cyfrif cyfryngau cymdeithasol yn cymryd lot o amser a buddsoddiad. Eleni wnes i sylweddoli dwi ddim gyda'r amser i fuddsoddi i mewn i ddatblygu fy rhwydweithiau cymdeithasol fel y gwnes i yn nyddiau cynnar Twitter. Rydw i dal eisiau defnyddio’r llwyfannau i ddysgu o bobl eraill (ac i rannu beth rwy'n dysgu pan mae’n werthfawr), ond does gen i ddim yr amser i rwydweithio fel roeddwn i arfer.

Mae fy nghydweithwyr i bellach yn defnyddio LinkedIn i lenwi'r bwlch, ond dwi dal ddim yn ffan fawr. Mae'n glir bod pobl yn rhannu mwy o'u hunain yno, ond mae'n dal i deimlo fel lle ble mae pobl yn portreadu fersiwn penodol o'u hunain.

LinkedIn
GIF ble mae dau berson yn edrych ar sgrin cyfrifiadur o dan y teitl “Yet another think piece about working from home? Yes pls!”

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer 2024?

Byddai'n cysidro fy lles ychydig yn fwy wrth i mi ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn 2024. Eleni fe wnes i sylweddoli fy mod i'n defnyddio podlediadau fel cyfryngau cymdeithasol hefyd, a dydyn nhw ddim yn rhoi cyfle i mi bendroni. Rydw i eisiau rhoi mwy o gyfleoedd i fy hun i ymlacio a myfyrio eleni.

Blogio

Mae Write.As yn blatfform arbennig. Mae'r golygydd testun yn rhoi cyfle gwych i gopïo dolenni ac elfennau ar draws fy mlogbostau dwyieithog.

Fe wnes i adael Medium oherwydd diwylliant y lle. Roedd gennyf fwriadau mawr o ran sut y byddwn yn defnyddio Feedly yn lle swyddogaeth dilyn Medium i ategu fy nefnydd i o gyfryngau cymdeithasol. Wnaeth hynny ddim digwydd mewn gwirionedd – roedd e’n ychwanegiad i sut rwy'n gweithio, felly wnes i byth rhoi e ar waith.

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer 2024?

Yn 2023 fe sgwennais 11 blogbost, sy'n fwy na'r targed gosodais fy hun. Teimlais bwysau ar brydiau i gyflawni hynny, a dwi ddim yn siŵr fod hyn wedi cynorthwyo fy myfyrdod. Dyw targed yn y gofod yma ddim yn ddefnyddiol mwyach, felly byddai'n mynd heb darged flwyddyn nesaf.

Rwy'n ffodus bod Research in Practice wedi ein hannog i neilltuo amser ar gyfer datblygiad personol. Dechreuodd hyn yn dda, ond mae fe wedi mynd ar chwâl braidd. Rydw i wedi rhoi nodyn yn fy nghalendr i fy atgoffa i i checio ffrydiau sy'n cyfateb i feysydd i'w ddatblygu bob dydd Gwener. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn fy helpu i i wneud gwell defnydd o Feedly ac i rannu a myfyrio’n well ar adnoddau dysgu.

Sut gwnes i yn erbyn fy nodau?

Rwy'n teimlo fel fy mod i wedi bod yn ddewr eleni, ac wedi cael sgyrsiau defnyddiol ac adeiladol ar hyd y ffordd. Mae llai o straen gartref wedi helpu gyda hynny, gan ein bod ni wedi cyrraedd man da ar ôl 18 mis o ddiffyg cwsg. Fodd bynnag, mae gennym heriau ar y gweill eleni. Rydw i wedi siarad am rai o'r rhain mewn cyfarfodydd oruchwylio, ac rwy'n ddiolchgar iawn i gael cymorth yn y gwaith yn ogystal ag yn fy mywyd cartref.

Rwy'n dal i fyny i fy nghlustiau mewn sgwennu arweiniad am dasgau a phrosesau gwahanol, ond dwi di wneud lot. Hoffwn lywio'r dyluniad rhai o'n hadnoddau ychydig yn fwy'r flwyddyn yma, gan fynd ychydig yn ddyfnach i'r ochr UX o bethau. Dw i wedi bod yn anelu at ddatblygu fy ngwybodaeth am UX ychydig, ac mae ychwanegu hashnodau UX i'm llif cartref ar Mastodon wedi bod yn ddefnyddiol (arweiniodd hyn yn uniongyrchol ato'r blogbost yma ar ddysgu a chryfderau).

Unrhyw beth arall?

Un o fy uchafbwyntiau blwyddyn ddiwethaf oedd taith seiclo o amgylch Canolbarth Cymru. Mae gen i gwpl o syniadau mewn golwg ar gyfer eleni – mae'r siwrneiau Traws-Gambriaidd a Traws Eryri yn wir apelio ataf. Bydd hyn yn rhoi pwynt ffocws i mi ar gyfer cynnal fy iechyd a lles dros y flwyddyn. Yn y cyfamser, dringo bryniau a'r tyrbo bydd yn cadw fi'n ffit nes mae yna fwy o olau dydd.

Dyma i 2024!

Dilynwch fi ar toot.wales