Dyfrig Williams

Y meddylfrydau gwahanol sydd tu ôl i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr

Pan oeddwn i'n gweithio i Gyfranogaeth Cymru, roeddwn i’n ymateb i ymgynghoriadau polisi a oedd yn ymwneud â chyfranogiad yng Nghymru.

Roedd Adroddiad Beecham: Cyflawni Ar Draws Ffiniau yn sail i lot o’n gwaith. Roedd y papur yn dyfynnu araith enwog Rhodri Morgan ynglŷn â'r dŵr coch clir. Roedd yr araith yn sôn am sut y byddai dull Llafur Cymru o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn wahanol i ddull Llafur Lloegr. Llais fyddai’r sbardun ar gyfer gwelliant yng Nghymru, a dewis fyddai'n hwyluso gwelliant yn Lloegr.

A wnaeth lleisiau dinasyddion llywio gwasanaethau?

Er fy mod i'n gwbl gefnogol i'r meddylfryd Cymreig mewn theori, ni welais fawr o effaith llais pobl Cymru yn ymarferol. Fe welais y mecanweithiau ymgynghori traddodiadol fel y byddech chi'n disgwyl, ond ni welais unrhyw wasanaethau yn canoli dymuniadau pobl yn eu gwaith mewn modd radical, ac ni welais lawer o gydgynhyrchu chwaith.

Sut mae dewis yn gweithio allan yn Lloegr?

Pan symudais i Loegr roeddwn i'n ddigon ffodus i gael swydd gyda Research in Practice, ble rydw i wedi bod yn gweithio ers hynny. Un o'r pethau cyntaf wnes i oedd mynd i'r afael â’r cyd-destun polisi newydd y ffeindiais i'n gweithio tu fewn, a chefais fy synnu gan y tebygrwydd rhwng Deddf Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Deddf Gofal Lloegr, er bod ffocws yr ail ar gomisiynu yn Lloegr yn wahaniaeth glir.

Rydw i wedi bod yn Lloegr ers saith mlynedd bellach ac roeddwn i'n disgwyl y byddwn i'n gallu dweud bod effaith dewis yn glir i'w weld oherwydd y gwasanaethau di-ri sy'n cael ei darparu gan y sector preifat. Ond dwi ddim yn gallu meddwl am unrhyw dewis ystyrlon dwi di cael ers byw yr ochr yma i'r ffin.

Dy ni heb cael dewis ynghylch natur yr ysgolion mae fy llysferch i wedi'i fynychu, gan bod y rhain wedi cael eu llywio gan y dalgylch rydym wedi byw ynddo.

Pan dwi di angen ofal iechyd sydd ddim yn ofal brys, yr unig dewis dwi di cael yw i dalu mwy i gael mynediad at wasanaethau preifat yn gyflymach. Mae'r dewis wedi cael ei gyfyngu achos fod llymder wedi golygu dwi ddim wedi gallu fforddio (neu eisiau) mynd yn breifat. Mae'n eironig bod polisi Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn cyfyngu ar ddewis, tra'n lleihau darpariaeth y sector cyhoeddus. Er dwi ddim yn siwr bod y darn olaf yn eironig, neu jyst yn ideolegol.

Felly beth dwi di dysgu o hyn?

Felly i bob pwrpas dwi newydd fanylu anallu dwy system i wella gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r cyfan braidd yn ddigalon.

Byddai'n wych os byddai mwy o drafod yn gallu cymryd lle o fewn gwleidyddiaeth. Mae yna seneddau wahanol ar draws gwledydd y DU, a mae'n teimlo fel dy ni byth yn cymryd y cyfle i ddysgu'n o iawn o’r hyn sy’n gweithio o fewn gwahanol wledydd. Er enghraifft, mae'n teimlo fel bod yr integreiddiad o iechyd a gofal cymdeithasol yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn ddi-baid. Mae lot o ffocws wedi bod ar yr hyn sydd wedi'i wneud ym Manceinion, heb sôn am y ffaith bod hyn wedi bod ar waith yng Ngogledd Iwerddon ers blynyddoedd.

Mae'r podlediad yma yn un o'r rhai gorau mae Research in Practice wedi cynhyrchu. Mae'n cymharu'r cyfraddau o blant sy’n dod i mewn i’r system ofal mewn gwahanol rannau o’r DU. Er bod Gogledd Iwerddon yn wlad gymharol dlawd, mae'n cymryd llai o blant i ofal na rhannau eraill o'r DU. Mae yna cymaint o wersi y gallwn ni cymryd o hynny.

Mae cymaint o ddysgu cyfoethog ar gael i ni, byddai'n wych os allwn ni fod yn fwy agored i ddysgu oddi wrth ein gilydd.

Dilynwch fi ar toot.wales